top of page

AMDANOM NI

"Ma' cymaint o ddramâu Cymraeg da i gael - ond ma' cael gafael arnyn nhw'n anodd."

- Dafydd Morse, Llangeitho

"Bydd cael llyfrgell o ddramâu ar-lein yn fuddiol iawn i bob Clwb Ffermwyr Ifanc"

- Mererid Davies, Cadeirydd CFfI Ceredigion

Yn nghyfnod y cwmnïau drama lleol yng Nghymru cyfansoddwyd cannoedd o ddramâu. Digon cyffredin yw safon llawer iawn ohonynt – o fawr o ddiddordeb, bellach. Ond mae yna hefyd berlau yn eu mysg – dramâu y mae’n werth eu darllen heddiw a gwerth ystyried eu llwyfannu o’r newydd. Y sgriptiau llawn potensial hyn yw crynswth Y Llyfrgell Ddramâu ddigidol hon – sgriptiau o botensial i gwmnïau o bob oedran a statws.

Yn rhan o'r Ŵyl Ddrama, mae Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw a Theatr Felin-fach wedi bod yn casglu dramâu 'slawer dydd o bob cwr o'r wlad. Rydym wedi casglu dros 250 o ddramâu ar ffurf copi caled ac mae'r rhestr lawn i'w gweld yma. Os ydych am weld neu fenthyg unrhyw un o'r dramâu hyn cysylltwch â ni.

 

Rydym wedi dethol a digido nifer o ddramâu sydd bellach ar gael i chi eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim yma.

 

Byddwn yn parhau i ychwanegu dramâu dros y misoedd nesaf, ac os hoffech weld drama benodol ar y wefan cysylltwch â ni.

Cysylltwch hefyd os ydych yn bwriadu llwyfannu unrhyw ddrama yn sgil y ffaith ei bod ar gael yn y Llyfrgell hon.

bottom of page