W. J. Gruffydd (1881 - 1954)
Ysgolhaig, bardd, beirniad a golygydd a aned yng Nghorffwysfa, Bethel ar 14 Chwefror 1881. Fel ysgolhaig gwnaeth lawer o waith ar Bedair Cainc y Mabinogi, a chyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes llenyddiaeth Gymraeg. Daeth yn fwyaf amlwg fel bardd, gan ennill coron Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 am Yr Arglwydd Rhys.
Yn 1922 cychwynnwyd Y Llenor fel cylchgrawn chwarterol, a W.J.Gruffydd oedd y golygydd. Bu’r Llenor yn gyfrwng i gyhoeddi gweithiau’r prif feirdd a llenorion mewn cyfnod coeth a thoreithiog yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Cyfrannodd y golygydd ei hun gryn lawer iddo, erthyglau o feirniadaeth lenyddol a rhai traethiadau dychanus ar agweddau ar fywyd y genedl.
Yn 1926 dechreuodd ei ‘Nodiadau’r Golygydd’, a chafodd gyfle i draethu ei farn ar bynciau o bob math yr oedd ef yn teimlo’n gryf arnynt ac i gyfiawnhau ei ddisgrifiad ohono’i hun fel ‘prif gythraul y cyhoedd yng Nghymru’. Ymysg y pynciau a drafodid yr oedd pob agwedd ar safle’r iaith, crefydd, Seisnigrwydd rhai dosbarthiadau yn y gymdeithas Gymreig, gwendidau darlledu, llygredd yn y bywyd cyhoeddus, llosgi’r ysgol fomio, addysg ar bob lefel, ac yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol. Dro ar ôl tro bu’r golygydd yn cwyno bod pwyllgorau lleol yr Eisteddfod yn bwnglera, fod gwŷr di-Gymraeg a dihaeddiant yn cael eu hanrhydeddu a bod gormod o ddefyddio’r iaith Saesneg ar y llwyfan. Pan ddechreuwyd diwygio’r Eisteddfod yn 1935 drwy lunio cyfansoddiad newydd a dwyn y Llys a’r Cyngor i fod, yr oedd Gruffydd yn un o’r cynrychiolwyr a fu’n gwneud y gwaith, ac o hynny ymlaen bu iddo gyswllt agos â’r Eisteddfod, nid yn unig fel beirniad (ar y bryddest y rhan amlaf) ond hefyd fel aelod o’r Cyngor ac fel Llywydd y Llys o 1945 hyd ei farw.
Ysgrifennodd Gruffydd dair drama – Beddau’r Proffwydi, a berfformiwyd gyntaf gan aelodau o goleg Caerdydd yn 1913, Dyrchafiad Arall i Gymro (1914) a Dros y Dŵr (1928). Cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Antigone Sophocles yn 1950.
Dramâu
-
Beddau’r Proffwydi (Caerdydd, 1913)
-
Dyrchafiad Arall i Gymro (Caerdydd, 1914)
-
Dros y Dŵr (1928)
Ffynhonnell: