David Mathew Williams (Ieuan Griffiths) 1900 - 1970
Gwyddonydd dawnus a llenor Cymreig oedd David Mathew Williams, a ddefnyddiodd y llysenw Ieuan Griffiths (1900–1970).
Cafodd ei eni yng Nghellan yng Ngheredigion yn 1900. Yn 1911 ac yntai yn Ysgol Uwchradd Tregaron cafodd y marciau uchaf drwy Gymru mewn Cemeg. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 1911, mewn Cemeg.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau gan gynnwys: Lluest y Bwci a Ciwrat yn y Pair, Dirgel Ffyrdd, Awel Dro ac eraill. Ysgrifennodd hefyd ddramâu gan gynnwys un ddrama ar ddeg dan yr enw 'Ieuan Griffiths'.
Dramâu
-
Dirgel Ffyrdd (Llandysul, 1933).
-
Awel Dro (Llandysul, 1934).
-
Yr Oruchwyliaeth Newydd (Dinbych, 1937).
-
Dau Dylwyth (Llandysul, 1938).
-
Deryn Dierth (Llandysul, 1943).
-
Taflu’r C’lomennod (Llandysul, 1947).
-
Ted (Llandysul, 1952).
-
Y Fflam Leilac (Llandysul, 1952).