top of page

D. T. Davies

Y mae D.T.Davies yn haeddu lle teilwng ymhlith dramodwyr cymdeithasol Cymraeg hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.

 

Fe’i ganed yn Nant-y-moel, Morgannwg Ganol, ac fe’i magwyd yn y Gelli, Ystrad Rhondda. Enillodd radd B.A. o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac aeth i Lundain i ddysgu tan y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ymunodd â’r Ffiwsilwyr Cymreig. Dychwelodd i Gymru ar ôl y rhyfel a bu’n byw ym Mhontypridd ac yn gweithio fel arolygwr ysgolion.

Daeth i gyswllt â J. O. Francis tra oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth a chafodd gyfle i ymgydnabod â dramâu Saesneg pan fu’n athro ysgol yn Llundain. Yr oedd dramâu Ibsen yn ffasiynol yn theatrau Llundain a bu’r rhain yn batrymau i D.T.Davies a’r to newydd o ddramodwyr Cymraeg megis R.G.Berry, J.O.Francis a W.J.Gruffydd. Lluniodd nifer o ddramâu hir a mwy fyth o ddramâu byrion. Torrodd dir newydd gyda’r dramâu hyn drwy roi portread ffyddlon o fywyd a’i feirniadu’n onest. Bu bri arbennig ar ei weithiau yn ystod yr 1920au pan ddaeth y mudiad drama Cymraeg i’w lawn dwf yng nghymoedd y de, a phan sefydlwyd cwmnïau a gwyliau drama yn y capeli ac yn neuaddau’r gweithwyr. Gweithiodd D.T.Davies dros hybu’r ddrama Gymraeg trwy ysgrifennu ar gyfer cylchgronau’r cyfnod, beirniadu mewn Eisteddfodau a gweithio gyda’r mudiad drama yn Abertawe.

Dramâu
  • Ble Ma Fa?, (Aberystwyth, 1913)

  • Ephraim Harris, (Caerdydd, 1914)

  • Pelenni Pitar, (Abertawe, 1925)

  • Castell Martin, (Caerdydd, 1920)

  • Y Pwyllgor, (Caerdydd, 1920)

  • Y Dieithryn, (Caerdydd, 1922)

  • Gwerthoedd, (Aberystwyth, 1936)

  • Troi’r Tir, (Caerdydd, 1926)

  • Toriad Dydd, (Aberystwyth, 1932)

  • Ffrois, (Caerdydd, 1920)

  • Branwen Ferch Llŷr, (Caerdydd, 1921)

bottom of page