Brinley Jones
Dramodydd a beirniad drama o Frynteg, Pant Dowlais oedd Brinley Jones. Bu’n bennaeth ar ddwy ysgol yn ystod ei yrfa yn Ysgol Gynradd Gellifaelog ac Ysgol Heol Gerrig cyn symud i weithio i Adran Addysg Awdurdod Lleol Merthyr Tudful am oddeutu 38 mlynedd. Roedd yn undebwr mawr a bu’n llywydd ar gangen Merthyr Tudful undeb addysg yr N.U.T.
Roedd Brinley Jones yn ddramodydd adnabyddus a bu’n un o’n arweinwyr mwyaf blaellaw yn natblygiad y ddrama yng Nghymru. Dau o’i ddramau mwyaf adnabyddus yw ‘John a Jâms’ a ‘Siop Newydd’. Brinley Jones oedd beirniad adran Gymraeg y Gynghrair Ddrama Brydeinig, a bu’n feirniad ar y cyd gyda Mr Leyshon Williams, ar gystadlaethau drama yr ieuenctid yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun yn 1936. Roedd hefyd yn aelod o bwyllgor drama Ysbyty Cyffredinol Merthyr.
Bu farw ym 1936 yn 54 oed.
Dramâu
-
Atgofion
-
John a Jâms
-
Siop Newydd