top of page

Idwal Jones (1895 - 1937)

Llenor a digrifwr o Lanbedr Pont Steffan oedd Idwal Jones (1895 – 1937). Roedd yn gymeriad ffraeth a oedd yn adnabyddus am ei ddramau a’i gerddi digrif. Cafodd yrfa amrywiol gan weithio fel clerc, ysgolfeistr a darlithydd. Gwasanaethodd yn y fyddin yn Nwyrain Affrica yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar ôl y rhyfel a chafodd radd mewn Saesneg.   Ar ôl cyfnod fel ysgolfeistr ym Mhontarfynach cafodd swydd fel Darlithydd Efrydiau Allanol yn Aberystwyth.

Ysgrifennodd ddramâu a sioeau cerdd gan gynnwys Gwrid y Wawr (1921), P'un (1927), Tibit y Popty (1927) ac Yr Anfarwol Ifan Harris (1928), a sgriptiau radio i'r BBC. Cyfrannodd at amrywiol gylchgronau a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi a pharodïau: Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill (Llandysul, 1934) a Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath (Llandysul, 1937).

Ei waith pwysicaf efallai yw'r ddrama Pobl yr Ymylon, sy'n ddychan ar barchusrwydd a snobyddiaeth.​

Dramâu
  • Pobl yr Ymylon (1927)

  • Yr Anfarwol Ifan Harris (1928). Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1928.

  • Yr Eosiaid (1936). Drama gerddorol.

bottom of page