top of page

Manylion Yr Ŵyl Ddrama 2017

》 Sioe gerdd CNEIFO! - cynhyrchiad gwreiddiol ac uchelgeisiol mewn cydweithrediad â ‘sgwenwyr, cyfansoddwyr, cynhyrchwyr a pherfformwyr lleol. Dyma gynhyrchiad egnïol fydd yn mynd i’r afael â thraddodiad cydweithredol pwysig yn nghalendr pob ffermwr defaid yn y gorllewin – cneifo. (6-7 Hydref 2017).

》Drama ATGOF ATGOF (gan Euros Lewis) – drama newydd yr ŵyl yn seiliedig ar fywyd, gwaith a chariad Prosser Rhys a Morris Williams. (Teithio yn nhymor yr hydref 2017)

》CREU THEATR – cyfres o weithdai agored ar y grefft o greu gweledigaeth theatrig a’i throi’n sgript neu strwythur ymarfer. (Tymor yr hydref 2017)

 

...a llawer llawer mwy!

 

Os ydych chi'n dymuno noddi'r Ŵyl Ddrama, lawrlwythwch ein Pecyn Noddi.

​


Sefydlwyd Yr Ŵyl Ddrama gan Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw ar y cyd â Theatr Felin-fach.

 

Mae’n ŵyl annibynnol.

Noddwyd gan Adran Theatr, Ffilm a Theledu
Mewn cydweithrediad â Theatr Felin-fach ac yn rhan o'r Ŵyl Ddrama

© Cwmni Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw 2019

bottom of page